Mae Plaid Cymru wedi galw ar arweinydd y Blaid Lafur, Ed Miliband, i gael gwared ar yr “un hen wynebau o Gymru” yng nghabinet yr wrthblaid.
“Mae Ed Miliband yn hawlio fod cenhedlaeth newydd bellach yn gofalu am ei blaid, ac y mae o’r un farn â’r Blaid trwy gytuno â’r safbwynt fu gennym ers amser o gondemnio rhyfel Irac,” meddai Aelod Seneddol Arfon, Hywel Williams.
Ond meddai am yr ymgeiswyr sydd gerbron i’w dewis o Gymru, “mae’r rhan fwyaf ohonynt yr union un rhai â’r hen ‘Weision Bach’ Llafur Newydd a bleidleisiodd yn drychinebus deyrngar dros y ddegawd ddiwethaf pan oedd y blaid mewn grym”.
Cymru ‘ar ei cholled’
Ychwanegodd bod rhaid i Ed Miliband “brofi mai ei law ef sydd ar y llyw trwy beidio â phenodi cabinet yn llawn o ffanatigiaid Llafur Newydd sydd yn cludo etifeddiaeth popeth oedd o’i le gyda’r llywodraeth Lafur ddiwethaf”.
“Dyma’r ‘Gweision Bach’ a bleidleisiodd yn gibddall o blaid system arfau niwclear Trident y mae cymaint o amarch iddi.
“Pleidleisio ‘ie’ gyda Llafur fu eu hanes hwy ar faterion a arweiniodd at drychinebau polisi tramor yn Irac ac Afghanistan.
“Yr un Gweision Bach Llafur Newydd yw’r rhain a wrthododd gydnabod fod Cymru wedi ei thangyllido’n ddifrifol am flynyddoedd dan eu llywodraeth hwy ac a ganiataodd i hyn ddigwydd. ‘Dyw tröedigaeth wyrthiol i bolisi Plaid Cymru o ddileu ‘fformiwla Barnett’ annheg yn twyllo neb.
“Tra’r oedd Peter Hain yn Ysgrifennydd Gwladol Cymru, gwrthododd ymdrin â’r angen i ddiwygio cyllido. Mae Cymru ar ei cholled o fwy na £300m oherwydd hyn, ond dim ond ers colli etholiad y crybwyllodd Mr Hain y peth.
“Rhaid i Mr Miliband ddangos y gall dorri’n rhydd oddi wrth y gorffennol, ond yr un hen griw Llafur Newydd yw’r rhain.”