Mae tîm Gemau Gymanwlad Cymru wedi dweud eu bod nhw’n hapus gyda’r cyfleusterau ym mhentref y cystadleuwyr yn Delhi.
Roedd yna amheuon yr wythnos ddiwethaf a fyddai rhai o’r timau yn cystadlu oherwydd safon y cyfleusterau.
Mae’r beiciwr o Gymru, Geraint Thomas, eisoes wedi tynnu ‘nôl o’r gemau oherwydd pryderon am iechyd a diogelwch.
Ond fe benderfynodd tîm Cymru deithio i’r India ar ôl cynnal archwiliadau yn Delhi.
Mae trefnwyr wedi bod yn gweithio’n galed er mwyn sicrhau bod pentref y cystadleuwyr yn ogystal â’r cyfleusterau yn barod ar amser.
Dywedodd llefarydd tîm Cymru, Jane Williams nad oedden nhw’n pryderu o gwbwl erbyn hyn.
“Mae’r amodau’n ardderchog yn ein llety, mae’r neuadd fwyd yn wych ac mae’r athletwyr eisoes wedi cychwyn ar eu hymarferion,” meddai’r llefarydd.
Mae 112 o’r 170 o aelodau sydd yn nhîm Cymru wedi cyrraedd Delhi yn barod ar gyfer seremoni agoriadol y gemau dydd Sul.