Mae hyfforddwr dros dro Cymru, Brian Flynn, wedi dweud na fydd Craig Bellamy yn chwarae yn y gemau rhagbrofol ym mis Hydref oherwydd ei anaf.

Mae capten Cymru wedi colli pum gêm ddiwethaf Caerdydd oherwydd problemau gyda’i ben-glin.

Fe allai Bellamy fod ‘nôl yn chwarae i Gaerdydd yn erbyn Barnsley dydd Sadwrn, ond fe fydd yn dal i golli’r gemau yn erbyn Bwlgaria a’r Swistir.

Ond mae rheolwr yr Adar Glas, Dave Jones eisoes wedi dweud y byddai’n synhwyrol cadw Bellamy draw o’r gemau rhagbrofol er mwyn sicrhau ei fod yn cael digon o amser i wella’n iawn.

“Rydw i wedi trafod y mater yn helaeth gyda Dave Jones ac rwy’n fwy na hapus gyda’i esboniad,” meddai Flynn wrth bapur y Western Mail.

“Roeddwn i wedi dweud bod angen Craig yn y tîm, ond dyna’r sefyllfa a mae’n rhaid newid cynlluniau. Bydd rhaid i ni ymdopi heb Craig.”