Mi fydd hi’n agos at flwyddyn arall nes y bydd modd clywed ail albwm y band o Fangor, Plant Duw.
Er bod ‘Distewch, Llawenhewch’ wedi cael ei recordio eisoes, fydd hi ddim yn cael ei rhyddhau nes y bydd y prif ganwr, Conor Martin, yn dychwelyd o Affrica.
Mae’n gweithio’n wirfoddol fel meddyg ym Malawi ers tua mis bellach, meddai chwaraewr gitâr fas y band, Elidir Jones, wth Golwg360.
Ac mae’r band wedi penderfynu aros nes y bydd yn dod nôl ym mis Medi 2011, er mwyn gallu hyrwyddo’r albwm yn iawn, dywedodd.
Er hyn, awgrymodd fod gobaith y gallai sengl o’r albwm gael ei rhyddhau cyn hynny.
‘Tywyllach’
Dywedodd Elidir Jones y byddai’n disgrifio ‘Distewch, Llawenhewch’ fel albwm sy’n “barhad” o’r albwm gyntaf, ‘Y Capel Hyfryd’.
Ond mae’n “mynd i gyfeiriad ychydig yn wahanol,” meddai, â “caneuon sy’n dywyllach”.