Mae rheolwr Wrecsam, Dean Saunders, yn mynnu bod ei dîm wedi gwneud eu gorau i geisio sicrhau buddugoliaeth yn erbyn Grimsby Town yn Blundell Park.

Fe gollodd y Dreigiau 2-1 gan ddod a’u rhediad o wyth gêm heb golli i ben.

Fe aeth y tîm cartref ar y blaen gyda Steven Watt yn sgorio ar ôl i’r Dreigiau fethu a chlirio cic gornel.

Fe aeth Grimsby 2-0 ar y blaen wedi’r egwyl gydag Alan Connell yn sgorio yn dilyn cliriad gwael arall gan Chris Blackburn.

Fe sgoriodd Nathaniel Knight-Percival yn yr amser ychwanegol i Wrecsam ond roedd o’n rhy hwyr i sicrhau canlyniad positif.


Barn Dean Saunders

“Roedden ni wedi dod yma i wneud ein gorau i ennill. Fe aethon ni am y pwyntiau ac roedd o’n gêm dda i’r gwylwyr niwtral,” meddai Saunders.

“Roedd yna lawer o gyfleoedd i’r ddwy ochr, ond fe alle’n ni fod wedi bod ar y blaen 2-0 ar ôl pum munud.

“Roedd y goliau’n siomedig ond doedd hi byth am fod yn hawdd ennill fan hyn. Fe fydd rhaid i ni fod yn barod i daro ‘nôl yn erbyn Darlington dydd Sadwrn.”