Fe sgoriodd Rhys Griffiths dair gôl er mwyn sicrhau buddugoliaeth i Lanelli yn erbyn Hwlffordd yn New Bridge Meadow.
Mae Griffiths wedi ennill gwobr prif sgoriwr Uwch Gynghrair Cymru am y pum mlynedd diwethaf, ac roedd ei goliau neithiwr yn golygu ei fod o wedi sgorio wyth gôl mewn saith gêm y tymor hwn.
Fe sgoriodd yr ymosodwr ei gôl gyntaf ar ôl 25 munud, gydag Owain Warlow yn ychwanegu’r ail wyth munud yn ddiweddarach.
Fe sgoriodd Griffiths ei ail gôl o’r gêm wedi 67 munud cyn ychwanegu pedwerydd i Lanelli gyda munud yn weddill.
Mae’r fuddugoliaeth yn codi Llanelli i’r trydydd safle yn Uwch Gynghrair Cymru, ond maen nhw wyth pwynt tu ôl i Fangor ar frig y tabl.