Mae Tywysog Cymru wedi gwadu ei fod o’n colli arni, ond wedi cyfaddef ei fod o’n “siarad gyda choed a phlanhigion” fel petaent yn blant iddo.

Yn ystod rhaglen ddogfen gan y garddwr Alan Titchmarsh dywedodd ei fod o hefyd yn gorwedd ar lawr ei gartref yn Highgrove er mwyn cuddio rhag ymwelwyr er mwyn gwrando ar eu sylwadau.

Yn ôl papur newydd News of the World, dywedodd bod pobol yn cyfeirio ato fel peta’n “potty” a “loony”.

“Rydw i wedi clustfeinio ar beth mae ymwelwyr yn ei ddweud,” meddai. “Ond pan maen nhw’n mynd heibio’r ffenestr weithiau mae’n rhaid i fi orwedd ar y llawr.

“Rydw i wrth fy modd yn siarad gyda phlanhigion a choed, ac yn gwrando arnyn nhw. Mae o’n hollol angenrheidiol.

“Mae’r holl blanhigion yma fel plant i fi. Ond bydd rhaid i fi geisio datgysylltu fy hun cyn hir, yn seicolegol.”

Roedd un o gyndadau Charles, y Brenin George III, hefyd yn enwog am siarad gyda choed.