Mae trigolion ardal Wrecsam yn cael eu hannog i ymuno â Chôr yr Eisteddfod Genedlaethol, sy’n ailgychwyn ymarfer wedi egwyl dros yr haf.

Mae dros 150 eisoes wedi ymuno meddai’r Hywel Wyn Edwards, Trefnydd yr Eisteddfod, sy’n annog unrhyw un sy’n byw ar draws y gogledd ac sy’n awyddus i ganu i fynd i’r ymarfer nos Sul.

“Mae’n ffordd ardderchog i gymdeithasu ac i gefnogi’r Eisteddfod yn yr ardal,” meddai.

“Rydym yn awyddus i sicrhau bod yr Eisteddfod yn 2011 yn ŵyl i’w chofio yma yn Wrecsam – yn enwedig gan fod yr Eisteddfod Genedlaethol ei hun yn dathlu 150 o flynyddoedd ar ei ffurf bresennol.

“Felly cefnogwch y côr, er mwyn ein galluogi i godi to’r Pafiliwn a dangos i’r byd bod gennym gantorion heb eu hail yng ngogledd ddwyrain Cymru.”

Yn ôl yr Eisteddfod, does dim cyfyngiadau ar oed na phrofiad, ac mae croeso i bob llais.

Bydd yr ymarfer nos Sul yn digwydd yng Nghapel y Groes, Wrecsam, am 7.30pm.

Bydd Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam a’r Fro yn cael ei gynnal rhwng 30 Gorffennaf a 6 Awst, 2011.