Mae arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru wedi cyhuddo Gweinidog o gamarwain y Cynulliad ynglŷn ag adroddiad ar y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru.
Dywedodd Kirsty Williams bod Edwina Hart wedi “treulio misoedd” yn gwadu bod yr adroddiad gan gwmni McKinsey yn bodoli o gwbwl.
Yn ôl y Democratiaid Rhyddfrydol roedd y gweinidog iechyd wedi comisiynu’r cwmni i gynnal adolygiad o’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru’rflwyddyn ddiwethaf.
Ers hynny mae hi wedi gwadu ddwywaith bod adroddiad yn bodoli sy’n feirniadol iawn ynglŷn ag arweinyddiaeth y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru, meddai Kirsty Williams.
“Mae Comisiwn McKinsey wedi arwain at broses yn hytrach nag cyhoeddiad a felly does yna ddim dogfen ffurfiol i’w chyhoeddi,” meddai yn y Senedd.
Mae Kirsty Williams yn dweud ei bod hi wedi cael gafael ar y ddogfen a’i fod o’n cyfeirio at nifer o wendidau yn arweinyddiaeth y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru.
Yn ôl y ddogfen mae strategaeth y glymblaid yn “anfforddiadwy” a does dim “y gallu i’w gweithredu”.
“Mae’r Gweinidog Iechyd wedi treulio misoedd yn gwadu bod yr adroddiad yma’n bodoli, dwywaith o flaen y Cynulliad,” meddai Kirsty Williams.
“Mae’n hawdd gweld pam gan ei fod o’n manylu ar gymaint o fethiannau gan arweinyddiaeth Plaid a Llafur ar Wasanaeth Iechyd Cymru.”