Mae’r Cwpan Ryder yn gyfle unwaith mewn oes i dynnu sylw at Gymru a denu buddsoddwyr, meddai’r Prif Weinidog Carwyn Jones heddiw.
Fe fydd Cymru ar sgriniau dwy filiwn o bobol pan fydd Cwpan Ryder yn dechrau yn y Celtic Manor ger Casnewydd, meddai.
“Mae’n gyfle unwaith mewn oes i wneud yn siŵr bod pobol wedi clywed am Gymru, pan maen nhw’n ymweld â Chymru maen nhw eisiau dod yn ôl ac yn gweld Cymru fel lle i fuddsoddi,” meddai Carwyn Jones.
“A bod yn onest dyma’r math o dwrnamaint na fydden ni wedi bod â gobaith ei denu cyn datganoli am na fyddai’r dynamig gwleidyddol yn bodoli.”
Dywedodd fod gallu Cymru i gynnal y fath gystadleuaeth fawr yn “arwydd ein bod ni’n awr yn wlad fawr ar lwyfan y byd wrth gynnal digwyddiadau chwaraeon”.
Roedd denu a chynnal y twrnamaint wedi costio £40 miliwn i’r trethdalwyr dros gyfnod o 10 mlynedd, ac fe gafodd mwy na hynny ei wario ar wella trafnidiaeth gyhoeddus mewn pryd.
Dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog Ieuan Wyn Jones nad oedd o’n disgwyl i’r Cwpan Ryder ddod a £70 miliwn i mewn fel oedd wedi ei amcangyfrif yn y gorffennol.
“Byddai unrhyw un rhesymol yn sylweddoli, oherwydd ein bod ni wedi cael dirwasgiad, efallai y bydd angen ailfeddwl y ffigwr yna,” meddai.
“Ni fyddwn ni’n gwybod am ychydig fisoedd tan ar ôl y Cwpan Ryder pa mor llwyddiannus ydan ni wedi bod.
“Rydan ni’n ei ddefnyddio i wella’r gymuned fusnes yng Nghymru ac mae’n gyfle i ni siarad gyda busnesau rhyngwladol fyddai’n gallu buddsoddi yng Nghymru.”