Mae elusen iechyd blaenllaw yng Nghymru wedi galw ar awdurdodau ar draws Gymru i sicrhau “awyrgylch di-fwg” mewn caeau a pharciau chwarae cyhoeddus plant.

Dywedodd Tanya Buchanan, Prif Weithredwr ASH Cymru, eu bod nhw eisiau i holl awdurdodau Cymru gefnogi galw’r elusen am barciau chwarae ‘di-fwg’ i blant.

Mae’r elusen yn dadlau fod gan blant yr “hawl” i fwynhau awyrgylch di-fwg wrth chwarae.

Maen nhw hefyd yn pryderu bod gweld oedolion yn ysmygu mewn mannau cyhoeddus yn “normaleiddio” yr arferiad yn llygaid y plant.

Byddai gwneud parciau cyhoeddus yn ddi-fwg yn ei gwneud hi’n llai tebygol y bydd plant yn “datblygu problemau iechyd o ganlyniad i anadlu mwg” pobol eraill.

“Mae sbwriel sy’n deillio o ysmygu yn gwneud i’n parciau a mannau cyhoeddus edrych yn fudr ac yn achosi difrod tymor hir i’r amgylchedd,” meddai Lesley Jones, Prif Weithredwr Cadwch Cymru’n Daclus.

“Mae ein plant yn haeddu lle glân a lle diogel i chwarae.”