Mae llywydd neuaddau Cymraeg prifysgol Bangor eleni wedi rhoi croeso gofalus i’w cartref newydd, Bryn Dinas a Tegfan, ar safle Ffriddoedd yn y ddinas.

Cafodd y myfyrwyr oedd yn arfer bod yn hen neuadd John Morris-Jones eu symud i’r neuaddau newydd ar gyfer y tymor yma.

O dan y drefn newydd, fe fydd myfyrwyr yn byw mewn fflatiau en-suite ond yn gorfod paratoi eu bwyd eu hunain.

Yn hytrach na choridorau agored, mae’r fflatiau wedi eu cynllunio fesul blociau a does dim modd mynd o un i’r llall oherwydd sustemau diogelwch.

“Roedd pawb yn ofni i ddechrau bod pethau’n mynd i newid am ein bod ni’n byw mewn fflatiau a bod dim swper a brecwast,” meddai llywydd JMJ eleni, Mared Jones wrth Golwg360.

“Mae pawb yn siŵr o golli JMJ, ac mae e am gymryd ‘bach o amser i ni setlo i mewn. Ond, dw i’n siwr y byddwn i’n iawn,” meddai.

“Doedd nunlle fel neuadd JMJ ym Mangor – roedd pawb mor gyfeillgar ac yn nabod ei gilydd.”


Y sialens fwyaf… dod o hyd i le i fwyta

Dywedodd mai un o’r rhesymau y gwnaeth hi ymgeisio am y swydd eleni oedd er mwyn “gwneud yn siŵr bod sbort y flwyddyn diwethaf yn parhau”.

“Pan glywais i am y peth i ddechrau, doeddwn i ddim yn deall pam bod angen symud, gan bod yr hen JMJ dal yna a phobol yn aros yno.

“Doedd o ddim yn ddelfrydol gorfod symud, ond mae’n rhaid dweud mae o’n reit neis cael en-suite. Dyw e ddim mor wael a’r hyn ro’ ni’n meddwl.”

Mae’n dweud mai’r sialens fwyaf fydd yn ei hwynebu fel Llywydd fydd trefnu cinio croeso, cinio Nadolig a chinio ffarwelio myfyrwyr y neuadd.

Roedd gan yr hen JMJ gantîn a chogyddion fyddai’n paratoi’r prydau i fyfyrwyr bob blwyddyn.
“Does dim cantîn ‘da ni yma. Bydd rhaid ni ffeindio lle i gael y cinio, felly mae o am fod yn ddrytach, heb os,” meddai.