Mae heddlu Swydd Hampshire wedi amddiffyn eu penderfyniad i gyhoeddi llun sy’n dangos dyn sy’n edrych fel petai ganddo ddarn o letys ar ei ben.

Cyfaddefodd llefarydd ar ran yr heddlu nad oedd y llun a ryddhawyd o ddyn a ddrwgdybir o ddwyn £60 oddi ar wraig o’r “safon gorau.”

Problem dechnegol wnaeth achosi’r lliw anarferol, a’u bod yn aros i’w system gael ei uwchraddio, meddai.

Dywedodd nad yw lliw’r gwallt yn amharu ar allu’r cyhoedd i adnabod wyneb y dyn, ac na fyddai’n gywir dal y llun yn ôl oherwydd bod ei wallt y lliw anghywir.

Roedd y dioddefwr hefyd yn hapus i’r llun gael ei gyhoeddi, meddai.

Yn ôl yr heddlu mae’r dyn tua 40 oed ac mae ganddo wallt golau sydd wedi dechrau britho.