Mae perchennog elusen yn pryderu bod achos dynes wnaeth roi cath mewn bin olwynion wedi ysbrydoli pobol eraill i wneud yr un fath.

Daeth gweithwyr mewn ffatri ailgylchu yn Hull o hyd i gath fach pum mis oed yn crio yn un o’r biniau.

Cysylltodd y gweithwyr gydag elusen anifeiliaid lleol, ac fe aeth Valeri Wakeham o’r elusen a’r gath at y milfeddyg er mwyn gwneud yn siwr ei bod hi’n iawn.

Dywedodd Valeri Wakeham o Hessle Dog Rescue ei bod hi’n credu bod yr ymosodwr wedi dynwared dynes a gafodd sylw ar draws y byd am roi cath mewn bn olwynion yn Coventry.

Ddoe fe gafodd Mary Bale, 45 oed, ei chyhuddo o achosi gofid di-angen i anifail ac fe fydd hi’n mynd o flaen llys fis nesaf.

“Roedd o’n beth afiach i’w wneud,” meddai Valeri Wakeham. “R’yn ni’n byw mewn cymdeithas sy’n taflu pethau i ffwrdd o hyd.

“Pe na bai’r ddynes yna wedi cael cymaint o sylw mae’n anhebygol y byddai’r person oedd yn gyfrifol am hyn wedi cael y syniad.

“Hoffwn i wneud yr un fath iddyn nhw. Mae angen eu saethu nhw.”