Fe fydd Eric Daniels, bos Grwp Bancio Lloyds, yn ymddeol y flwyddyn nesa’. Fe ddaeth y cyhoeddiad heddiw gan y banc sydd wedi derbyn arian cyhoeddus i’w gynnal trwy’r trafferthion ariannol.

Mae Mr Daniels – a ddaeth dan y lach wedi i Lloyds fynd i drafferthion wrth geisio achub HBOS pan oedd yr argyfwng ariannol ar ei waetha’ – wedi bod yn Brif Weithredwr y grwp ers mis Mehefin 2003.

Mae 41% o gyfranddaliadau Lloyds yn berchen i’r trethdalwyr, ac fe fydd y grwp yn bwrw ymlaen nawr i chwilio am olynydd i Eric Daniels.

Llun: PA