Mae 13 o bobol wedi ‘diflannu’ o Dde Califfornia, ac mae eu teuluoedd yn ofni bod a wnelo hynny â’u haelodaeth o grwp crefyddol.
Mae pump oedolyn ac wyth o blant wedi eu cofnodi fel pobol ar goll, ac mae’r bobol agosa’ atyn nhw’n dweud eu bod nhw wedi sôn eu bod nhw’n disgwyl i’r byd ddod i ben.
Mae rhai wedi gadael llythyrau yn dweud hynny, meddai’r awdurdodau yn Ne Califfornia.
Mae heddlu’r ardal wedi cadarnhau fod yr 13 unigolyn yn aelodau o eglwys Gristnogol, a bod rhai’n pryderu tros gredoau anarferol y grwp.
Maen nhw’n chwilio am dri cherbyd sy’n perthyn i’r eglwys.