Mae Dirprwy Brif Weinidog Prydain, Nick Clegg, wedi tynnu blewyn o drwyn pobol sy’n hawlio budd-daliadau, trwy awgrymu bod pobol yn gwneud môr a mynydd o fwriadau’r llywodraeth i dorri’n ôl ar wariant cyhoeddus.

Er bod y rhan fwya’ o adrannau’r llywodraeth yn San Steffan yn wynebu toriadau o hyd at 25%, mae Mr Clegg wedi awgrymu, efallai na fydd canlyniadau hynny cyn waethed ag y mae pobol wedi’i feddwl.

Ar raglen Andrew Marr ar BBC1 y bore yma, fe ddywedodd Nick Clegg fod adroddiadau dyddiol sy’n codi bwganod ynglyn â phwy fydd yn diodde’ pan gaiff y toriadau eu cyhoeddi, yn codi ofn ar bobol.

“Ac os ga’ i fentro dweud, mae’r trafod yma wedi creu awyrgylch lle mae pobol yn gwneud môr a mynydd o’r sefyllfa, ac efallai eu bod nhw’n poeni gormod,” meddai.
 
Roedd Nick Clegg yn siarad o gynhadledd ei blaid yn Lerpwl.