Mae’r Pab Bened XVI wedi nodi 70 mlynedd ers un o brif ddigwyddiadau’r Ail Ryfel Byd trwy gondemnio “drygioni” Natsïaeth.
Mae’r Pab Almaenig, a gafodd ei orfodi i ymuno â mudiad pobol ifanc Hitler pan yn ddisgybl ysgol 14 mlwydd oed, wedi disgrifio profiad “emosiynol” bod yng ngwledydd Prydain ar achlysur 70 mlynedd ers Battle of Britain.
“Mae’n gyfle i ddwyn i gof gyda chywilydd yr holl erchylltra a’r aberth a’r dinistr y mae rhyfel yn ei achosi,” meddai Bened yn ystod offeren ar ddiwrnod ola’ ei ymweliad pedwar-diwrnod â gwledydd Prydain.
“Fel un sydd wedi byw a diodde’ o ganlyniad i Natsïaeth yn yr Almaen, mae’n brofiad emosiynol iawn.
“Rwy’n meddwl yn arbennig am ddinas Coventry, a ddioddefodd yn ofnadwy o ramn bomio a cholled bywydau ym mis Tachwedd 1940,” meddai wedyn.
“Saith deg mlynedd yn ddiweddarach, rydyn ni’n ail-gysegru ein bwriad i weithio dros heddwch a chyfamod, lle bynnag mae yna fygythiad o ryfel.”