Mae beiciwr canol oed wedi marw tra’n beicio yn Eryri.

Bu farw’r gwr 54 oed dros y Sul tra’n beicio mynydd yn ardal Betws-y-coed.

Fe fethodd ambiwlans â chyrraedd y fan lle’r oedd wedi diodde’ poenau yn ei frest, felly fe gafodd tim achub mynydd o Ddyffryn Ogwen ei alw i’w gario at yr ambiwlans.

Ond nid oedd yn bosib achub bywyd y gwr o Sir Fflint.