Mae dau o bobol ifanc Pabyddol wedi eu hanafu mewn ymosodiad yng Ngogledd Iwerddon.

Fe gafodd y ddwy ferch, 17 a 14 oed, eu hanafu yn eu hwynebau ar ôl i griw o bobol – yn cynnwys dynion a marched – ymosod arnyn nhw yn ardal Greenmount o Coleraine nos Wener.

Mae heddlu’n ymchwilio i adroddiadau y gallai aelodau unoliaethwyr fod yn gysylltiedig â’r digwyddiad.

Maen nhw eisiau manylion am symudiadau fan fechan goch a gafodd ei gweld yn yr ardal, ac maen nhw’n apelio ar i unrhywun sydd â gwybodaeth i gysylltu â nhw.