Mae stormydd grymus yn Taiwan yn gorfodi pobol i symud o’u cartrefi, ac mae’r sustem drafnidiaeth ar stop.
Mae’r ganolfan astudio tywydd yn dweud fod y teiffwn Fanapi, y storm fawr gynta’ i daro Taiwan eleni, yn gyfrifol am wyntoedd o 89 milltir yr awr. Mae’r gwyntoedd hynny bellach ar eu ffordd tua’r gorllewin, ac yn anelu am China.
Fe syrthiodd hyd at 21 modfedd o law yn ardaloedd deheuol Taiwan ddoe, ac mae arolygon tywydd yn addo mwy.
Mae tua 6,000 o bobol wedi cael eu symud o’u cartrefi, cyn bod tirlithriadau yn achosi mwy o ddifrod.