Mae dau saethwr ar gefn motor-beic wedi saethu twristiaid yn un o fosgiau mwya’ India heddiw.
Fe ddechreuodd y saethwyr danio’n agored ger mosg Jama Masjid, gan daro dau ymwelydd a oedd mewn bws ger yr adeilad.
Mae’r mosg, sy’n dyddio’n ôl i’r 17eg ganrif, yn gyrchfan boblogaidd i dwristiaid ger calon y ddinas. Aethpwyd â’r twristiaid i ysbyty, ac maen nhw bellach mewn cyflwr sefydlog.
Pryderon
Mae’r digwyddiad wedi achosi pryder, gan fod dinas Delhi yn gwahodd athletwyr o bob cwr o’r byd i Gemau’r Gymanwlad ymhen pythefnos.
Fe fydd 71 o dimau yn cymryd rhan yn y gemau rhwng Hydref 3 a 14.
Chwilio
Dyw hi ddim yn glir ar hyn o bryd o lle yn y byd yr oedd y ddau ymwelydd yn dod, ac mae heddlu’r ddinas wedi dechrau chwilio am y ddau saethwr a lwyddodd i ddianc o’r fan.
Fe gafodd yr ardal o gwmpas y mosg ei chau gan yr heddlu yn syth wedi’r digwyddiad.