Mae pâr o fomiau car wedi rhwygo dwy ardal yn Baghdad heddiw, gan ladd 21 o bobol ac anafu dwsinau o bobol eraill. 
 
Fe ffrwydrodd y ddwy yr un pryd, bron, a hynny yn ystod y cyfnod tawel yn dilyn mis sanctaidd Ramadan y Mwslim.

Fe gafodd 12 o bobol eu lladd pan ffrwydrodd bom car ger swyddfa cwmni ffonau symudol mewn ardal gymharol gyfoethog o orllewin Baghdad. Fe gafodd deg o bobol eu hanafu yn yr ymosodiad hwnnw.

Funudau yn ddiweddarach, fe ffrwydrodd bom arall mewn sgwar yn Kazimiyah yng ngogledd Baghdad, gan ladd o leia’ naw o bobol ac anafu 38 o bobol eraill. .

Fe gafodd dau blismon hefyd eu lladd.