Fe fu’n rhaid i’r paffiwr o Gymru, Enzo Maccarinelli, gael triniaeth frys ar ôl cael ei daro i’r cynfas mewn gornest Ewropeaidd neithiwr.

Fe fu’n rhaid rhoi ocsigen iddo yn y sgwâr ac roedd yn anymwybodol am tua phum munud cyn codi ar ei draed eto yn Birmingham.

Mae’n ymddangos bellach bod gyrfa’r bocsiwr o Abertawe ar ben – roedd wedi gobeithio cipio’r teitl Ewropeaidd yn y pwysau cruiser a mynd yn ei flaen i ymladd am bencampwriaeth y byd.

Roedd yna feirniadaeth o’r dyfarnwr yn yr ornest, Erkki Meronen, am ganiatáu i’r ffeit fynd yn ei blaen ar ôl i Maccarinelli gael ei daro i’r cynfas unwaith gan Alexander Frenkel.

Cleverly’n ennill

Roedd yna well newyddion i’r paffiwr o Cefn Fforest, Nathan Cleverly, wrth iddo ef ennill gornest pwysau trwm ysgafn a symud o fewn un ffeit i bencampwriaeth y byd.

Ef bellach yw’r prif heriwr am y teitl WBO ar ôl curo Karo Murat o’r Almaen yn gyfforddus mewn deg rownd.

Llun: Enzo Maccarinelli’n aros am driniaeth (Gwifren PA)