Mae’r chwe dyn a gafodd eu harestio am ‘gynllwynio’ i ymosod ar y Pab wedi cael eu rhyddhau heb gyhuddiad.

Yn ôl yr heddlu, doedd yna ddim tystiolaeth o drosedd ac, yn ôl un papur newydd, roedden nhw wedi cael eu harestio ar ôl i rywun eu clywed yn rhannu jôc mewn cantîn.

Roedd pump – sy’n dod o ogledd Affrica ac yn lanhawyr stryd yn Llundain – wedi cael eu harestio ben bore ddoe a’r chweched yn ddiweddarach.

Roedd yr heddlu wedi chwilio mewn nifer o safleoedd yn y ddinas ond heb ddod o hyd i unrhyw arfau.

Gwynfydoli Newman

Fe fydd ymweliad y Pab yn cyrraedd uchafbwynt heddiw wrth iddo wynfydoli’r Pabydd enwog, y Cardinal Newman – cam at ei wneud yn sant.

Fe fydd y gwasanaeth yn digwydd yn Birmingham, ar ôl i ddyn yn yr Unol Daleithiau honni ei fod wedi cael ei wella ar ôl gweddïo yn enw’r Cardinal o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Roedd cannoedd yn cysgu yn yr awyr iach neithiwr i gael lle da ar gyfer y seremoni ac mae disgwyl y bydd degau o filoedd yn cymryd rhan.

Neges Cameron

Wrth ffarwelio â’r Pab, fe fydd y Prif Weinidog, David Cameron, yn ei ganmol am wneud i bobol feddwl o ddifri am grefydd yn ystod ei ymweliad.

Fe fydd yn dweud bod Bened XVI wedi dangos bod ffydd yn “rhan hanfodol o’r sgwrs genedlaethol”.

Llun: Pobol yn cysgu allan i aros am y Pab (Gwifren PA)