Fe gafodd 14 o bobol eu lladd mewn ymosodiadau terfysgol yn ystod etholiadau Afghanistan ddoe. Yn ôl Gweinyddiaeth Fewnol y wlad, roedd y rheiny’n cynnwys tri phlismon.

Fe gadarnhawyd bod bron 100 o ymosodiadau wedi bod – 33 o fomiau wedi’u ffrwydro a 63 o rocedi wedi’u tanio. Roedd yna ymgais aflwyddiannus i ladd llywodraethwr talaith Kandahar wrth iddo deithio o un orsaf bleidleisio i’r llall.

Er hynny, roedd y Llywodraeth yn Kabul yn hawlio llwyddiant, gan honni bod 92% o’r gorsafoedd pleidleisio wedi llwyddo i agor.

Roedd y bobol yn pleidleisio i ethol cynrychiolwyr unigol i’r senedd – roedd yna 2,500 yn cynnig am 249 o seddi.

Llai’n pleidleisio

Roedd nifer y marwolaethau’n llai nag yn ystod etholiadau’r Arlywydd y llynedd ond roedd lefel y pleidleisio hefyd yn is.

Er nad oes ffigurau terfynol eto, mae’n ymddangos mai tua 3.6 miliwn o bobol oedd wedi pleidleisio, allan o gyfanswm posib o 17 miliwn.

Y cwestiwn nesa’ fydd penderfynu a oedd yr etholiad yn deg ar ôl cyhuddiadau eang o dwyll yn ystod etholiad yr Arlywydd. Yn ôl sylwebyddion rhyngwladol, mae’n rhy gynnar i ddweud.

Llun: Agor blwch pleidleisio (AP Photo)