Tref Port Talbot 1 Dinas Bangor 2
Mae Dinas Bangor wyth pwynt yn glir ar frig tabl Uwchgynghrair Cymru, ar ôl cynnal eu record ddiguro heddiw, wedi buddugoliaeth ym Mhort Talbot.
Ond doedd hi ddim yn fuddugoliaeth hawdd i’r gogleddwyr, wrth i’r tîm cartref roi perfformiad cryf, yn yr hanner cyntaf yn enwedig.
Fe aeth Tref Port Talbot ar y blaen ar ôl i Lee John sgorio o fewn naw munud o chwarae, cyn i’r ymwelwyr ddod yn gyfartal wedi 17 munud, ar ôl i Eddie Jebb ganfod cefn y rhwyd efo foli o 20 llath.
Daeth yr ail gôl i Ddinas Bangor ar ôl 57 munud wrth i Jamie Reed daro’r bêl i mewn i’r rhwyd yn dilyn cic gornel.
‘Methu manteisio’
Mae llefarydd ar ran Tref Port Talbot wedi dweud mai methu adeiladu ar y fantais oedd ganddyn nhw yn yr hanner cyntaf gostiodd y gêm iddyn nhw.
Port Talbot “reolodd” y rhan fwyaf o’r hanner meddai Mark Pitman wrth Golwg360.
Â’r hyn a gollodd y gêm iddyn nhw oedd methiant i fanteisio ar gyfleodd da “o flaen y gôl”, meddai.
Ac er i Bort Talbot wthio’n galed am ail gôl ar ôl i Ddinas Bangor fynd ar y blaen, yr ymwelwyr “oedd gryfaf” yn yr ail hanner, cyfaddefodd wedyn.
Yn dilyn y canlyniad, mae Port Talbot yn seithfed yn y gynghrair.
Llun: Logo Dinas Bangor