Mae un achos ychwanegol o glefyd y llengfilwyr wedi cael ei ychwanegu at y clwstwr o achosion ym Mlaenau’r Cymoedd.
Mae hynny’n golygu bod 21 o bobol wedi eu cysylltu â’r clwstwr, gan gynnwys un o’r tri o bobol sydd wedi marw o’r clefyd yn ne Cymru yn ystod yr wythnosau diwetha’.
Yn ôl Iechyd Cyhoeddus Cymru, mae’r ymchwil i darddiad yr achosion yn parhau, gyda phedwerydd gwaith wedi cau tŵr oeri er mwyn ei lanhau.
Roedd hwnnw yng Nghwm Cynon, un o’r ddwy ardal lle mae clystyrau o achosion. Y llall yw Cwm Rhymni.
Mae samplau wedi eu cymryd o nifer mawr o safleoedd ar hyd Blaenau’r Cymoedd ond dyw’r canlyniadau ddim ar gael eto.