Casnewydd 1 Mansfield 0
Dean Holdsworth a enillodd frwydr yr efeilliaid heddiw, gyda pherfformiad cadarn arall gan Gasnewydd.
Gôl o bron 30 llath gan Danny Rose oedd y gwahaniaeth rhwng ei dîm ef a thîm ei frawd David, rheolwr Mansfield.
Roedd yna ddau gardyn coch hefyd tua diwedd y gêm – yn ôl sylwebwyr roedd y dyfarnwr yn rhy barod i gosbi mewn gêm o bêl-droed da.
Mae’r fuddugoliaeth yn golygu bod Casnewydd wedi mynd heb golli gartre’ am flwyddyn a hanner ac maen nhw wedi codi i’r wythfed safle yn y Blue Square.
Llun: Dean Holdsworth (gwefan Casnewydd)