Fydd Dean Saunders, rheolwr Wrecsam, ddim yn ddyn hapus wrth deithio’n ôl i fyny’r A14 heno.

Unwaith eto, fe ildiodd ei dîm ddau bwynt ar ôl ymddangos fel petaen nhw am ennill.

Dim ond rhyw chwe munud oedd ar ôl pan gafodd Kettering gic o’r smotyn i ddod â’r gêm yn gyfartal.

Roedd Wrecsam wedi mynd ar y blaen ychydig cyn yr hanner trwy’r blaenwr Dean Keates ond roedd Kettering wedi pwyso’n drwm tua diwedd y gêm.

Mae’n golygu bod Wrecsam yn aros yn 15fed – roedd Dean Saunders wedi gobeithio cael rhediad o fuddugoliaethau i fynd â’r tîm i’r pump ucha’ yn y Blue Square.

Llun: Blin Saunders