Mae cyfarwyddwr Canolfan Ysgrifennu Genedlaethol Cymru Tŷ Newydd wedi mynegi ei siom na chafodd yr ysgrifenwraig o’r Unol Daleithiau, Pamela Petro fynediad i Brydain dros y penwythnos.
Fe wrthododd swyddogion mewnfudo ym Maes Awyr Heathrow adael Pamela Petro mewn i Brydain oherwydd nad oedd ganddi’r gwaith papur priodol.
Roedd yr ysgrifenwraig i fod i dreulio pedwar diwrnod yn Nhŷ Newydd yn Llanystumdwy yn dysgu cwrs ysgrifennu creadigol, ond doedd ganddi ddim y fisa cywir er mwyn gwneud hynny.
Mae Pamela Petro, sydd wedi dysgu Cymraeg, wedi treulio cyfnodau cynt yng Nghymru gan gynnwys adeg yn astudio am radd meistr ym Mhrifysgol Llambed.
‘Siom’
“Rydym yn siomedig iawn gyda’r hyn sydd wedi digwydd,” meddai cyfarwyddwr y ganolfan, Sally Baker wrth Golwg 360.
“D’yn ni erioed wedi cael problemau fel hyn o’r blaen. R’yn ni wedi cael sawl person yn teithio o’r Unol Daleithiau, a dydan ni byth wedi gorfod trefnu fisa.”
“Rydan ni hefyd yn anhapus gyda’r ffordd y cafodd hi ei thrin ar ôl iddi gyrraedd Maes Awyr Heathrow.
“R’yn ni’n pryderu bod y penderfyniad yma’n rhan o dynhau rheolau ac fe fydd hynny’n ei gwneud hi’n anoddach i bobl cael mynediad i’r wlad.
“Fe allai hyn rhwystro cydweithio yn y dyfodol rhwng Cymru a’r Unol Daleithiau. Pe bai awdur o’r Unol Daleithiau am deithio trwy Gymru ac am wneud ambell ddarlleniad o’i gwaith ar y ffordd, a fydden nhw’n cael eu hatal hefyd?
“Mae angen cael rhywfath o eglurhad o’r rheolau er mwyn osgoi digwyddiad arall o’r math yma yn y dyfodol.”
Taith arall
Fe ddywedodd Sally Baker bod yna gynlluniau i wahodd Pamela Petro ‘nôl i Dŷ Newydd y flwyddyn nesaf.
“Roedd rhaid i ni gael rhywun arall i gymryd ei lle ar gyfer y sesiynau a drefnwyd. Ond rydan ni’n gobeithio ei chael hi’n ôl y flwyddyn nesaf.
“Mae hi wedi bod yn siarad gyda swyddfa is-gennad Prydain yn Efrog Newydd, ac maen nhw wedi bod yn ei chynghori ynglŷn â pha gamau i’w cymryd nesaf.”