Mae’r AC Ceidwadol David Melding wedi datgan ei gefnogaeth i roi grymoedd casglu trethi i’r Cynulliad.
Fe fyddai’r hawl i gasglu trethi yn gallu trawsnewid economi Cymru, meddai Gweinidog Economi a Thrafnidiaeth yr wrthblaid.
Mewn cyfweliad â’r Western Mail, dywedodd Mr Melding ei bod hi’n bwysig cael trafodaeth ynglŷn â dyfodol polisi treth y Cynulliad ar y cyd gyda’r ymgyrch o blaid pwerau deddfu yn y refferendwm y flwyddyn nesaf.
“Cofiwch nôl i 1997,” meddai David Melding, “aeth yr Alban i’r afael â chwestiwn trethi law yn llaw â’u trafodaeth ar bwerau deddfu cynradd a Senedd i’r Alban.”
Dywedodd David Melding ei bod hi’n anffodus nad oedd Deddf Llywodraeth Cymru 2006, dan lywodraeth Llafur, yn caniatau arolwg o rymoedd treth fel rhan o’r refferendwm y flwyddyn nesa’.
“Dwi’n meddwl y byddai hi’n drafodaeth lawnach, a mwy synhwyrol, pe bydden ni’n trafod y materion hyn gyda’i gilydd,” meddai.
“Petawn ni’n trafod y polisi treth, a’i oblygiadau, yn llawn,” meddai David Melding, “fe allai gryfhau’r ymgyrch o blaid pwerau uwch yn sylweddol.”
Denu buddsoddwyr
Mae treth yn rhan bwysig o’r drafodaeth wleidyddol, meddai David Melding.
“Yn yr Alban, mae’n nhw’n chwilio i gael mwy o rymoedd trethi. Mae’r Llywodraeth yn San Steffan yn ystyried grymoedd treth corfforaethol i Ogledd Iwerddon er mwyn bod yn fwy atyniadol i fuddsoddwyr.
“Os ydi Cymru wir eisiau bod yn arloesol a denu buddsoddwyr sydd yn dymuno aros yma… y peth gorau i’w wneud yw gostwng lefelau treth corfforaethol, ac yna edrych ar rywbeth eitha radical fel graddfa uchaf y dreth incwm a lleihau honno, fel bod pobl sy’n ennill cyflogau mawr yn dod yma i ddechrau busnesau.
“Os llwyddwn ni wneud hynny, fe fyddwn ni’n gallu cadw mwy o’r cyfoeth ry’n ni’n ei greu.
“Dyma’r unig ffordd i daclo’r tlodi ecomomaidd tymor-hir yng Nghymru. Mae’n wir bod rhaid i ni gael polisi treth yng Nghymru sydd yn wahanol i’r hyn sydd yn bodoli yn ne-ddwyrain Lloegr neu Lundain.”
Dywedodd David Melding fod y rhaglen economaidd a gyflwynwyd gan y Dirprwy Brif Weinidog, Ieuan Wyn Jones, yn glynu wrth y “grymoedd eilradd” sydd eisioes ganddon ni.