Ar ddiwrnod swyddogol Owain Glyndŵr, mae gwaith adeiladu wedi dechrau er mwyn achub y safle gerllaw lle coronwyd Owain Glyndŵr yn Dywysog Cymru, union 610 o flynyddoedd yn ôl.
Glyndyfrdwy, ger Corwen, oedd un o breswylfeydd Owain Glyndŵr. Erbyn hyn, yr unig olion sydd ar ôl o’i hanes yng Nglyndyfrdwy yw tomen o dir gerllaw ei hen blasdy.
Y gred yw bod y tŷ wedi ei ddinistrio gan fyddin o Loegr ar ôl diflaniad Owain Glyndŵr, 14 mlynedd yn ddiweddarach.
Ers nifer o flynyddoedd, mae Cadw wedi bod yn poeni am sefyllfa’r twmpath o dir gerllaw safle’r tŷ, gan ei fod mewn perygl o ddisgyn.
Mae rhai haneswyr yn honni bod y twmpath yn dyddio yn ôl i’r 12fed ganrif, ac wedi ei adeiladu fel rhan o gastell mwnt a beili.
Nawr, mae cynllun cadwraeth ar waith yno i sefydlogi’r tir, wedi ei ariannu gan Gronfa Buddsoddi Arian Strategol Llywodraeth y Cynulliad.
Mae’r gwaith yng Nglyndyfrdwy yn rhan o brosiect £2 filiwn dros ddwy flynedd i wella cadwraeth a mynediad i nifer o henebion canoloesol mwyaf eiconig Cymru.
Alun Ffred Jones – ‘rhywbeth i’r cenedlaethau i ddod’
Dywedodd y Gweinidog dros Dreftadaeth, Alun Ffred Jones : “Bydd y gwaith i sefydlogi’r heneb eiconig yma a gwella mynediad i’r safle yn sicrhau bod y cenedlaethau i ddod yn gallu eu mwynhau.
“Mae’n briodol bod dechrau’r gwaith yma yn cyd-daro gyda phen-blwydd y digwyddiad pwysig yma yn hanes Cymru.”
Pan gyhoeddodd Owain Glyndŵr ei hun yn Dywysog Cymru yn 1400, fe daniwyd rhyfel annibyniaeth yng Nghymru, gan arwain at sefydlu senedd annibynnol i Gymru ym Machynlleth, ac yn ddiweddarach yng Nghastell Harlech yn gynnar yn y 15fed ganrif.