Mae Prif Hyfforddwr y Scarlets, Nigel Davies yn disgwyl gêm gorfforol pan fydd ei dîm yn wynebu Aironi ym Mharc y Scarlets nos yfory.
Mae’r Scarlets eisoes wedi cael y profiad o wynebu gwrthwynebwyr Eidaleg yn y Cynghrair Magners y tymor hwn ar ôl colli i Treviso ar ddiwrnod agoriadol y tymor.
Ond fe darodd y Scarlets ‘nôl yr wythnos diwethaf gyda buddugoliaeth ddramatig 35-33 yn erbyn Connacht, a fydd siŵr o roi hwb i’w hyder.
“R’yn ni wedi eu hastudio nhw’n fanwl, ac maen nhw’n dîm da. Mae Aironi yn fawr ac yn gorfforol ac r’yn ni’n disgwyl iddyn nhw ddod yma gyda blaenwyr cadarn,” meddai Nigel Davies.
“Fe fydd rhaid i ni fod yn fwy cywir ymhlith y blaenwyr yr wythnos yma – r’yn ni’n hyderus ein bod ni am gael rhywbeth positif o’r gêm yma.
“Roedd o’n amlwg yr wythnos diwethaf ein bod yn creu cyfleoedd ond nad oedden ni’n eu cymryd. Mae’r bois wedi gweithio’n galed yn y sesiynau hyfforddi’r wythnos hon ac mae’n rhaid i ni fod yn fwy clinigol nos Wener.
“Mae’n glir bod yna awyrgylch gystadleuol yn adeiladu yma ym Mharc y Scarlets ac mae hynny’n beth da.
“Mae’r chwaraewyr yn ymwybodol bod yn rhaid iddyn nhw fod ar eu gorau ym mhob gêm a dangos yr awydd a’r balchder i wisgo crys y Scarlets.”
Newyddion y tîm
Mae Dominic Day yn dychwelyd i’r tîm yn yr ail reng gyda Tavis Knoyle yn fewnwr. Yn dychwelyd hefyd y mae’r wythwr David Lyons.
Mae Andy Fenby yn cadw ei le fel cefnwr gyda Sean Lamont a George North ar yr esgyll. Mae Deacon Manu yn ôl fel prop gyda Rhys Thomas ar y fainc.
Carfan y Scarlets
15 Andy Fenby, 14 George North, 13 Regan King, 12 Jon Davies, 11 Sean Lamont, 10 Stephen Jones, 9 Tavis Knoyle,
1 Iestyn Thomas, 2 Matthew Rees, 3 Deacon Manu, 4 Lou Reed, 5 Dominic Day, 6 Rob McCusker, 7 Johnathan Edwards, 8 David Lyons.
Eilyddion: 16 Ken Owens, 17 Phil John, 18 Rhys Thomas, 19 Jonny Fa’amatuainu, 20 Josh Turnbull, 21 Martin Roberts, 22 Gareth Maule, 23 Rhys Priestland.
Carfan Aironi
15 Julien Laharrague, 14 Danwel Demas, 13 Gilberto Pavan, 12 Gabriel Pizarro, 11 Giulio Rubini; 10 Ludovic Mercier, 9 Tito Tebaldi.
1 Salvatore Perugini, 2 Fabio Ongaro, 3 Alberto De Marchi; 4 Carlo Del Fava, 5 Quintin Geldenhuys, 6 Jaco Erasmus, 7 Gareth Krause, 8 Nick Williams.
Eilyddion- 16 Luca Redolfini, 17 Luigi Ferraro, 18 Andrea De Marchi, 19 Joshua Furno, 20 Andrea Benatti, 21 Pablo Canavosio, 22 Giovanbattista Venditti, 23 Riccardo Bocchino.