Go brin fod yr un albym o Gymru erioed wedi cael cystal croeso ag a gafodd un Richard James dros yr haf.
Ers i albwm y dyn tawel oedd yn arfer chwarae’r gitâr fas yn Gorky’s Zygotic Mynci ymddangos fis Mehefin, mae We Went Riding wedi bod yn gwerthu fel slecs ymysg y gwybodusion.
Er yr adolygiadau da mae Richard James yn hollol ddiymhongar, ac yn ddiolchgar fod albym a gafodd ei recordio tair blynedd yn ôl wedi gweld golau dydd o’r diwedd.
Yn 2007 aeth label recordio Richard James i’r gwellt, a bu’n rhaid iddo aros i Guto Brychan o is-label Sain, Gwymon, ddod i’r fei i’w ryddhau.
“Teimlad neis ar ôl gweithio’n galed ar yr albym, wedyn cael adolygiadau da,” meddai Richard James am y clod ddaeth i’w ran,” meddai. “Teimlo fod e werth aros i gael e allan yn iawn.
“Mae’r caneuon i gyd yn weddol wahanol. Ddim yn ganeuon cymhleth ofnadwy.
“Gobeithio fy mod i’n eistedd lawr a sgwennu a chreu rhywbeth sy’n unigryw.”
Darllenwch weddill yr erthygl yng nghylchgrawn Golwg, 16 Medi