Fe fydd cost trwydded teledu’r BBC yn cael ei rewi am ddwy flynedd, cyhoeddodd Ymddiriedolaeth y gorfforaeth heddiw.
Fe fydd rhewi’r drwydded yn golygu cwymp £144 miliwn yng nghyllideb y gorfforaeth. Mae disgwyl i’r Llywodraeth dderbyn y cynnig yn hwyrach heddiw.
Dywedodd yr Ymddiriedolaeth bod y penderfyniad yn ymateb i “bwysau eithriadol” yr hinsawdd economaidd.
Mae’r Ysgrifennydd Diwylliant, Jeremy Hunt, eisoes wedi dweud ei fod o’n disgwyl i gost y drwydded teledu gael ei dorri yn y dyfodol.
Fe fydd y drwydded teledu yn dal i gostio £145.50 bob blwyddyn tan fis Mawrth 2013. Roedd gan y gorfforaeth yr hawl gyfreithiol i ofyn am gynnydd o 4% erbyn hynny.
Ond penderfynodd Ymddiriedolaeth y BBC na fyddai’n briodol cynyddu’r ffi trwydded tra bod yr economi a’u gwylwyr yn dioddef o gynni ariannol.
Mae’r Ymddiriedolaeth wedi gofyn i fwrdd gweithredol y gorfforaeth i edrych ar eu cyllideb ar gyfer y dyfodol a chwilio am arbedion tymor-byr.
Fe fydd y toriadau yn cael “effaith ar beth sy’n cael ei ddarlledu” ond y gellid gwneud y rhan fwyaf o’r arbedion heb effeithio ar gynnyrch y BBC, medden nhw.