Mae mudiad sy’n ymgyrchu yn erbyn datganoli mwy o rym i Gymru wedi beirniadu geiriad cwestiwn y refferendwm a gafodd ei dderbyn gan Ysgrifennydd Cymru.

Mae True Wales yn honni bod y cwestiwn yn rhoi mantais annheg i’r ymgyrch ‘Ie’, fydd yn dadlau o blaid datganoli grymoedd deddfu o San Steffan.

Yn ôl papur newydd y Western Mail, mae Rachel Banner o True Wales wedi ysgrifennu llythyr at Cheryl Gillan yn awgrymu bod y cwestiwn, sy’n dweud na fydd y Cynulliad yn gallu gosod cyfraddau trethi beth bynnag fydd canlyniad y refferendwm, yn gamarweiniol.

Mae hi’n mynnu bod trafodaethau ynglŷn â datganoli pwerau treth eisoes yn cael eu cynnal. Roedd adroddiad annibynnol gan Gomisiwn Holtham wedi awgrymu ym mis Mehefin y dylai’r Cynulliad gael y grym i godi trethi.

Mae Rachel Banner hefyd yn dweud bod clymblaid Llywodraeth San Steffan eisoes wedi awgrymu sefydlu comisiwn arall a fyddai’n ymdebygu i Gomisiwn Calman yr Alban, wnaeth argymell y dylai’r wlad honno gael mwy o rymoedd dros drethi.

Mae hefyd yn honni bod gwleidyddion yr ymgyrch ‘Ie’ am weld grymoedd o’r fath yn cael eu datganoli, ac nad yw’r cwestiwn fel ag y mae yn bod yn gwbl agored ynglŷn â hynny.

“Rydym ni wedi bod yma o’r blaen,” meddai. “Doedd refferendwm 1997 ddim yn sôn am y gallu i greu deddfau yn y dyfodol, ond fe wnaeth Deddf Llywodraeth Cymru yn 2006 newid hynny.”

Mae disgwyl y bydd y refferendwm yn cael ei gynnal ym mis Mawrth 2011.