Mae Julia Gillard wedi ei hurddo yn swyddogol yn Brif Weinidog Awstralia, y ddynes gyntaf erioed i ddal y swydd.

Mae’r ddynes 48 oed sy’n hannu o’r Barri yn anffyddiwr, a hi yw’r Prif Weinidog cyntaf yn hanes 109 mlynedd y wlad i beidio â thyngu llw ar y Beibl wrth gael ei hurddo.

Daeth Julia Gillard yn Brif Weinidog ar ôl disodli Kevin Rudd ym mis Mehefin ac yna fe arweiniodd y Blaid Lafur i fuddugoliaeth etholiadol dynn fis diwethaf.

Roedd Kevin Rudd bresennol yn y seremoni gan iddo gael ei benodi yn Ysgrifennydd Tramor yn ei chabinet yr wythnos diwethaf.

Dywedodd Kevin Rudd ei fod o’n gobeithio codi proffil rhyngwladol Awstralia, ac fel Prif Weinidog roedd o wedi lobio am sedd dros dro ar gyngor diogelwch y Cenhedloedd Unedig.

Fe fydd yn teithio i Efrog Newydd ddydd Gwener er mwyn cynrychioli Julia Gillard yng Nghynulliad Cyffredinol yr Undeb Ewropeaidd.

Mae’r wrthblaid eisoes wedi beirniadu Julia Gillard am benderfynu aros adref i ganolbwyntio ar faterion yn Awstralia.

Ei llywodraeth hi yw’r cyntaf mewn 67 mlynedd heb fwyafrif yn Senedd y wlad, ac fe allai colli cefnogaeth un gwleidydd fod yn ddigon i’w chwalu.