Mae Cyngor Sir Powys wedi pleidleisio o blaid cynnig yr awdurdod addysg i gau 10 o ysgolion cynradd yn ardal Ystradgynlais gan adeiladu pedair ysgol gynradd newydd yn eu lle.
Fe fydd adeiladu’r bedair ysgol newydd ac ailwampio Ysgol Maesydderwen yn Ystradgynlais yn costio £36 miliwn.
Mae’n rhan o gynllun gan Gyngor Powys i wario £125m ar ailwampio ysgolion cynradd y sir erbyn 2019.
Ond, mae ymgyrchwyr dros ysgol gyfrwng Gymraeg yn Ystradgynlais wedi dweud y byddan nhw’n lobio yn erbyn y penderfyniad fel ei fod o’n mynd at y Cynulliad.
Mae’r grŵp ymgyrchu yn dadlau nad ydi’r cynigion a gafodd eu cyflwyno o flaen Cyngor Sir Powys er mwyn addysg Gymraeg yr ardal yn ddigon da.
Mae ‘Na i Frynderi’ yn dadlau bod y safle yn rhy fach ac felly bydd gan y plant sy’n cael eu haddysgu drwy’r Gymraeg 57% yn llai o le na gweddill plant Ystradgynlais.
“Bydd dalgylch yr ysgol Gymraeg yn ymestyn o Goelbren a Glyntawe hyd at a thros ffin Powys,” medden nhw.
“Serch hynny, mae’r lleoliad a gynigir i’r ysgol o fewn tafliad carreg i ffin Nedd a Phort Talbot a Sir Gaerfyrddin.”
Maen nhw hefyd yn honni bod Cyngor Sir Powys wedi “bychanu y mwyafrif o rieni addysg gyfrwng Gymraeg trwy anfon dim ond swyddogion yn hytrach na chyfarwyddwyr i’r cyfarfod ymgynghori yn wahanol i’r holl ymgynghoriadau eraill”.
“Mae barn y mwyafrif o rieni wedi’u hanwybyddu a’u diystyru. Yn ychwanegol i hyn, mae Cyngor Tref Ystradgynlais wedi gwrthod cais Cyngor Sir Powys am fynediad i safle mwy addas a ffafriol.
“Ni fydd unrhyw botensial i ehangu’r safle. Mae yna wir fygythiad na fydd lle i ddisgyblion sy’n teithio o du allan i ffiniau Powys yn yr ysgol newydd.”
Symud clwb Pêl droed
Yn ogystal â hynny, maen nhw’n dadlau yn bydd dewis safle Brynderi yn golygu symud Cwm Wanderers FC i safle arall a hynny’n costio £850,000.
“Ynghlwm â phroblemau niferus eraill, hwn fydd y safle lleiaf ond drutaf i’w ddatblygu. Oni fyddai gwell gwario’r arian ar addysg ein plant?” meddai’r grŵp.
(Llun: Gwefan Na i Frynderi)