Mae’r Gweinidog Iechyd, Edwina Hart, wedi cymeradwyo cynlluniau cychwynnol i ddatblygu cyfleuster iechyd a gofal cymdeithasol newydd yn Aberteifi.

Bydd y datblygiad yn cymryd lle Ysbyty Aberteifi sydd erbyn hyn yn hen iawn a bydd y gwasanaethau newydd ar gael o dan un to.

Amcangyfrifir y bydd y datblygiad yn costio rhyw £20 miliwn a Llywodraeth Cynulliad Cymru fydd yn ei ariannu.

Ar ôl ystyried sawl safle fel lleoliad ar gyfer y prosiect, maen nhw wedi dewis safle Tŷ Caerfaddon yn y dref.

Mae’r ysbyty newydd yn rhan o gynllun dadleuol a fydd hefyd yn cynnwys adeilad archfarchnad Tesco mwy yn tu allan i’r dref.

Mae’r trafodaethau wedi rhygnu ymlaen ers blynyddoedd a mae yna bryder o hyd na fydd y bwrdd iechyd yn gallu fforddio prynu’r tir ar gyfer adeiladu’r ysbyty newydd.

Pe bai’n cael ei adeiladu fe fydd yr ysbyty hefyd yn cynnwys cyfleusterau ar gyfer Meddygon Teulu a Gwasanaethau Cymdeithasol.

Fe fydd y Bwrdd Iechyd nawr yn paratoi cynigion manwl i’r Gweinidog eu hystyried.

Pe bae’r datblygiad yn cael ei gymeradwyo disgwylir y bydd y safle yn agor i gleifion yn 2013.

Medden nhw

“Mae’r ffaith fy mod wedi cymeradwyo cynlluniau cychwynnol y Bwrdd Iechyd yn dangos fy ymrwymiad i ddatblygu gwasanaethau iechyd a gwasanaethau cymdeithasol yn Aberteifi,” meddai Edwina Hart.

“Bydd y datblygiad newydd yn cyfuno nifer o wasanaethau a bydd y gwasanaethau hyn i gyd ar gael o dan yr un to a bydd hyn yn gwella’r gofal a gaiff cleifion a bydd yn ffordd o ddefnyddio’r adnoddau cyfyngedig sydd ar gael inni’n well.”

“Rwy’n edrych ymlaen at weld mwy o gynlluniau manwl gan y Bwrdd Iechyd.”

Ychwanegodd Chris Martin, Cadeirydd Bwrdd iechyd Hywel Dda, eu bod nhw’n hapus iawn bod Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi cymeradwyo’r cynlluniau cychwynnol.

“Mae’r prosiect hwn yn dangos ymrwymiad y Bwrdd Iechyd i ddatblygu mwy o wasanaethau gofal iechyd sy’n ganolog i gymunedau lleol,” meddai Chris Martin.

“Hefyd, mae’n rhagor o newyddion da i gleifion yng Ngheredigion wrth inni barhau gyda datblygiad cyfalaf mwyaf y Bwrdd Iechyd sef cynllun Blaen Tŷ Ysbyty Bronglais, fydd yn gwella’r gwasanaethau gofal iechyd sydd ar gael, nid yn unig ym Mronglais, ond yng nghymuned Aberaeron hefyd.”

Dywedodd Llywodraeth y Cynulliad bod y datblygiad yn rhan o’r Cynllun Iechyd Gwledig, sydd â’r nod o gryfhau’r cysylltiadau rhwng iechyd a gwasanaethau cymdeithasol er mwyn gwella gwasanaethau mewn ardaloedd gwledig.