Mae angen gwasanaeth heddlu cryf ar Gymru a Lloegr i ddelio â’r tensiynau cymdeithasol a diwydiannol a ddaw yn sgîl toriadau cyllid, yn ôl Cymdeithas Uwcharolygwyr yr Heddlu.
Maen nhw’n ofni y bydd 40,000 o swyddogion yn colli eu swyddi pe bai cynlluniau’r Gweinidog Cartref i dorri 25% yn cael eu gwireddu.
Wrth i’r heddlu wynebu’r adolygiad mwyaf ers 50 mlynedd, mae’r Prif Uwch-arolygydd Derek Barnett wedi galw ar y Gweinidog Cartref i gymryd gofal.
“Mewn hinsawdd o doriadau ar draws y sector gyhoeddus, ry’n ni’n wynebu cyfnod lle mae tensiynau cymdeithasol a diwydiannol yn debygol o gynyddu,” meddai.
“Fe fydd angen gwasanaeth cryf a hyderus gan yr heddlu, gyda’r hyfforddiant a’r adnoddau iawn – gwasanaeth lle bydd morâl yn uchel, ac un a fydd yn ffyddiog o gefnogaeth a gwerthfawrogiad y llywodraeth a’r cyhoedd.”
Terfysg ar ein strydoedd
Mater o amser yn unig yw hi nes y bydd adwaith cymdeithasol i’r toriadau gwariant, yn ôl y Prif Uwch-arolygydd.
Swyddogion yr heddlu fydd yn gorfod ymateb “pan fydd terfysg ar ein strydoedd,” meddai Mr Barnett.
“Nid gwleidyddion na newyddiadurwyr fydd yn ceisio cadw heddwch ar ein strydoedd – ond ein heddlu ni.
“Mae hanes wedi profi fod ‘na fygythiadau parhaol i heddwch cyhoeddus – dyletswydd sylfaenol y llywodraeth yw hi i sicrhau diogelwch y genedl. “
Angen newid – ond cofio pwysigrwydd yr heddlu
Does “dim amheuaeth,” meddai Mr Barnett, fod strwythur presennol yr heddlu yn “aneffeithlon,” ac “nad yw’n ateb gofynion yr oes” meddai.
Ond galwodd ar y Gweinidog Cartref i gofio’r “peryglon a’r rôl unigryw y mae’r heddlu yn ei chwarae” wrth lunio’i hadolygiad, a sicrhau bod y swyddogion yn cael eu “gwerthfawrogi a’u trin yn deg – gyda pharch ac urddas”.