Mae gwleidyddion Plaid Cymru wedi galw ar Ysgrifennydd Diwylliant San Steffan i wylio cyfres newydd S4C, Pen Talar, cyn gwneud unrhyw benderfyniad i dorri cyllid y sianel.

Mae’r cynnig cynnar-yn-y-dydd wedi ei arwyddo gan Aelodau Seneddol Plaid Cymru, sef Jonathan Edwards, Elfyn Llwyd, a Hywel Williams.

“Mae’r Tŷ yma yn llongyfarch Fiction Factory a’r dramodwyr Sion Eirian ac Ed Thomas am gynhyrchiad cyfres epig iaith Gymraeg ‘Pen Talar’ ar S4C,” meddai’r cynnig gan y meincwyr cefn.

“Mae’n nodi bod y ddrama naw awr sydd wedi ei leoli yn nyffryn Tywi yn Sir Gaerfyrddin yn dilyn datblygiad gwleidyddol, economaidd a chymdeithasol Cymru o’r 1960au tan y diwrnod presennol gan ddilyn bywydau dau deulu.

“Mae’n nodi ymhellach bod y cast yn cynnwys rhai o actorion mwyaf addawol Cymru gan gynnwys Ryland Teifi, Richard Harrington a Mali Harris, ac yn cydnabod pwysigrwydd drama o’r safon yma i fywyd diwylliannol ac economaidd Cymru.

“Mae hefyd yn galw ar yr Ysgrifennydd Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon i wylio pob un o’r naw episod yn y gyfres fel rhan o’i benderfyniad ynglŷn â dyfodol cyllideb S4C.”

Roedd Prif Weithredwr dros dro S4C, Arwel Ellis Owen, a Chadeirydd Awdurdod S4C, John Walter Jones, wedi cyfarfod â’r Ysgrifennydd Diwylliant Jeremy Hunt er mwyn trafod y toriadau i gyllideb S4C yr wythnos diwethaf.

Mae’n debyg bod yr adran diwylliant yn Llundain eisiau torri 6% o gyllideb y sianel bob blwyddyn am bedair blynedd.

Darlledwyd episod cyntaf Pen Talar nos Sul ac fe fydd hi’n cael ei darlledu eto dydd Iau am 10pm.