Mae adroddiad newydd wedi datgelu bod prisiau tai yng Nghymru wedi disgyn am yr ail fis yn olynol ar ôl i fwy o eiddo gael ei roi ar y farchnad.

Dywedodd Sefydliad Brenhinol y Syrfëwyr Siartredig bod y cwymp mewn prisiau tai yn newyddion da i’w aelodau ac fe allai olygu y bydd gwerthiant yn cynyddu yn fuan.

Mae’r adroddiad yn dangos bod 30% o syrfëwyr siartredig wedi gweld cwymp mewn prisiau – mwy nag ers unrhyw adeg ers mis Mai 2009.

Mae’n nhw’n credu y bydd y cwymp mewn prisiau tai yn denu mwy o bobol i brynu dros y misoedd nesaf.

Roedd adroddiad arall gan Gyngor y Benthycwyr Morgais yn dangos bod y farchnad wedi parhau’n wan ledled Prydain ym mis Gorffennaf ond bod nifer y benthyciadau i bobol a oedd eisiau prynu tŷ wedi cynnyddu.