Mae cyn Aelod Seneddol Gogledd Caerdydd, a gwraig cyn Brif Weinidog Cymru, wedi dweud ei bod hi eisiau sefyll fel Aelod Cynulliad y flwyddyn nesaf.
Collodd Julie Morgan, gwraig Rhodri Morgan, ei sedd yn San Steffan ym mis Mai o drwch blewyn.
Roedd hi wedi dal y sedd ers 1997 ond cafodd ei maeddu gan y Ceidwadwr Jonathan Evans o 194 pleidlais yn yr Etholiad Cyffredinol.
Dywedodd Julie Morgan ei bod hi wedi penderfynu rhoi ei henw ymlaen yn y sedd yn Etholiad y Cynulliad y flwyddyn nesaf.
“Mae lot o bobol wedi cysylltu ac wedi fy annog i sefyll eto yn y Cynulliad,” meddai wrth bapur newydd y Western Mail.
Bydd Plaid Lafur Etholaeth Gogledd Caerdydd yn dewis eu hymgeisydd ar 23 Hydref.
Yr AC Ceidwadol Jonathan Morgan sy’n cynrychioli sedd Gogledd Caerdydd ers 2007. Sophie Howe oedd ymgeisydd y Blaid Lafur bryd hynny.