Mae penderfyniad Plaid Cymru yn eu cynhadledd dydd Sadwrn i gefnogi adeiladu Wylfa B yn “siomedig iawn ond ddim yn syndod” yn ôl grŵp sy’n ymgyrchu yn ei erbyn.
Er bod Plaid Cymru yn dweud ei bod hi’n gwrthwynebu pwerdai niwclear, pleidleiswyd yn y gynhadledd o blaid manteisio ar y lles economaidd lleol a allai ddod o Wylfa B.
Roedd arweinydd y blaid, Ieuan Wyn Jones, wedi annog cynhadledd y Blaid i gefnu ar ei “gwrthwynebiad llwyr” i adeiladu unrhyw bwerdai niwclear newydd.
Fe basiwyd cynnig i weithio i gael budd economaidd o’r datblygiad os byddai Llywodraeth Prydain yn penderfynu o’i blaid.
‘Byr dymor’
“Mae’n siomedig ond nid yw’n syndod,” meddai Dylan Morgan o ‘Pobl Atal Wylfa B’ cyn dweud bod Plaid Cymru wedi dangos “agwedd gefnogol” tuag at Wylfa B ers pedair mlynedd, er bod eu “negeseuon yn gymysg iawn”.
“Dyna pam mae PAWB yn bod, oherwydd teimlad cryf bod rhaid cael mudiad nid plaid wleidyddol i ymgyrchu dros yr achos.”
“Ond dydw i ddim yn meddwl bod y symudiad yma yn mynd i ennill pleidleisiau i Blaid Cymru yn y pendraw.
“Dw i chwaith ddim yn meddwl bod y Blaid yn lleol yn barod i drafod yr holl faterion yn ddwfn.
“Mae’n nhw’n edrych ar y budd byr dymor – nid y problemau fydd i genedlaethau’r dyfodol,” meddai cyn dweud na fyddai’n bosib cael gwared â gwastraff y pwerdy niwclear am “160 o flynyddoedd”.
Dywedodd na ddylai Plaid Cymru chwaith wadu cyfrifoldeb a honni mai mater i Senedd San Steffan yn unig fyddai penderfynu ar ddyfodol niwclear Ynys Môn.
‘Diddychymyg’
Dywedodd Dylan Morgan ei fod o’n cael yr argraff bod pob plaid ar draws Ynys Môn yn teimlo bod “Wylfa B yn anochel”.
“Maen nhw i gyd mor ddiddychymyg o ran meddwl am ddulliau ynni amgen ac maen nhw’n barod i roi eu hwyau i gyd yn y fasged niwclear.
Ychwanegodd y bydd grŵp ymgyrchu PAWB yn “parhau i ymgyrchu” ac y bydd “cyfarfodydd yn yr wythnosau nesaf” yn ogystal â chyfarfod cyhoeddus yn yr Hydref.