Mae 10 o bobol wedi marw ar ôl i daflegryn o’r Unol Daleithiau daro tŷ ym Mhacistan, yn ôl adroddiadau.
Dywedodd ffynonellau dienw o fewn Pacistan bod taflegrau o awyren di-beilot wedi taro pentref Shawal yng ngorllewin canolbarth y wlad.
Mae’r pentref yn ganolfan i wrthryfelwyr Haqqani a Hafiz Gul Bahadur sydd wedi bod yn brwydro milwyr o’r Unol Daleithiau dros y ffin ag Afghanistan.
Yn ôl adroddiadau roedd y Taliban wedi dod o hyd i gyrff 10 gwrthryfelydd yn rwbel y tŷ a gafodd ei ddinistrio bore dydd Llun.
Dyma’r 10fed ymosodiad o’i fath yn yr ardal y mis yma.