Fe gafodd Llanboidy dechrau perffaith i’r gêm ar Gae Dandref, gyda Celt Thomas yn sgorio yn gynnar.

Roedd y ddau dîm wedi sawl cyfle i sgorio yn ystod yr hanner cyntaf ond bu’n rhaid aros tan bum munud cyn hanner amser i Martin Owen ychwanegu ail gôl i’r tîm cartref.

Dechreuodd Felinfach yr ail hanner ar ras, gan sgorio yn y munudau cyntaf yn dilyn ergyd pwerus gan David Clark oddi ar gic gornel a wnaeth yn hedfan i gornel y gôl.

Daeth y gôl nesaf wedi chwarter awr, gyda Martin Owen yn bwrw taran o ergyd i sicrhau ei ail gôl yn y gêm, a’i wythfed mewn 4 gêm.

Rory Spiers cafodd y nesaf i Lanboidy, yn dilyn ymdrech gyda’i droed chwith i roi mantais o dair gôl i’r tîm cartref.

Cafodd Felinfach llygedyn o obaith gydag ugain munud i chwarae, wrth i’r hen ben Eilir Evans rhwydo.

Ond Llanboidy cafodd y gair olaf gyda Pete Davies yn sgorio gyda’i ben o gic cornel i selio buddugoliaeth arbennig o 5-2.