Mae arolwg barn yn y Sunday Times heddiw’n awgrymu mai Ed Miliband sydd fymryn ar y blaen yn y ras i arwain y Blaid Lafur.
Er mai ei frawd hŷn David sydd ar y blaen o ychydig o safbwynt dewisiadau cyntaf aelodau Llafur, yn ôl yr arolwg, mae ail ddewisiadau cefnogwyr yr ymgeiswyr eraill yn ddigon i alluogi Ed Miliband i’w drechu.
Mae’r arolwg hefyd yn dangos y tri ymgeisydd arall – Andy Burnham, Ed Balls a Diane Abbot ymhell y tu ôl i’r ddau frawd.
Wrth groesawu canlyniadau’r arolwg, dywedodd asiant Ed Miliband, yr Aelod Seneddol Sadig Khan, nad oedd ar y blaid eisiau “mwy o’r un peth”.
“Rydyn ni wedi ennill cefnogaeth a momentwm bob dydd o’r ymgyrch,” meddai.
“Rydym yn parhau i ymladd am bob pleidlais ac rydyn ni’n fwyfwy hyderus y gallwn ni ennill pob un o dair adran y coleg etholiadol.”
Eto i gyd, cafodd David Miliband hwb annisgwyl i’w ymgyrch ddoe wrth i Dennis Skinner, un o eiconau asgell chwith Hen Lafur, ddatgan ei gefnogaeth iddo.
Mae’r pleidleisio eisoes wedi dechrau a bydd yr enillydd yn cael ei gyhoeddi ar gychwyn cynhadledd y Blaid Lafur ym Manceinion ymhen pythefnos.
Llun: Y ddau frawd Ed a David Miliband yn cymryd rhan mewn dadl deledu’r wythnos ddiwethaf (Blake-Ezra Cole/Sky News/Gwifren PA)