Fe fu gwrthdaro rhwng dwy garfan o brotestwyr yn Efrog Newydd ddoe, wrth i America gofio dioddefwyr ymosodiad Medi 11,2001 ar y ddinas.

Ar ôl y seremoni goffa swyddogol ar y safle lle safai canolfan fasnach y byd, fe fu tua 2,000 yn cynnal rali gerllaw i gefnogi’r cynlluniau i godi mosg a chanolfan gymuned Islamaidd yno.

Ar yr un pryd, roedd tua 1,500 o wrthwynebwyr y mosg wedi ymgasglu gerllaw, yn gweiddi “USA, USA” a “No mosque here”.

Fel sy’n draddodiad blynyddol bellach, cafodd pelydryn glas ei oleuo dros Manhattan neithiwr i gofio’r ddau dŵr a gafodd eu dinistrio gan ddwy awyren yn yr ymosodiad.

Wrth nodi’r achlysur, rhybuddiodd yr Arlywydd Barack Obama yn erbyn ymdrechion y terfysgwyr i greu gwrthdaro rhwng pobl o wahanol grefyddau.

“Maen nhw’n dymuno’n gwahanu ni, ond fyddwn ni ddim yn ildio i’w casineb a’u rhagfarn,” meddai.

“Fel Americanwyr, dydyn ni ddim a fyddwn ni byth mewn rhyfel yn erbyn Islam. Nid crefydd a ymosododd arnon ni’r diwrnod hwnnw o Fedi, ond al Qaida, carfan druenus o ddynion sy’n gwyrdroi crefydd.”

Llun: Y pelydryn glas uwchben Efrog Newydd neithiwr i gofio tyrau canolfan fasnach y byd (AP Photo/Mark Lennihan)