Bu farw un o’r barnwyr uchaf ei barch drwy Brydain yn ei gartref ym Mochrwyd, Powys, ddoe.

Roedd yr Arglwydd Bingham o Cornhill, a oedd yn 76 oed, wedi dal tair o brif swyddi cyfreithiol Prydain – Meistr y Rholiau rhwng 1992 a 1996; Arglwydd Brif Ustus o 1996 hyd 2000 a Phrif Arglwydd y Gyfraith o 2000 i 2008.

Pan gafodd ei wneud yn Arglwydd Brif Ustus Lloegr a Chymru yn 1996, ef a fynnodd gynnwys y gair Cymru yn y teitl am y tro cyntaf erioed.

Ar ôl ei ymddeoliad yn 2008, dadleuodd fod Prydain wedi torri’r gyfraith ryngwladol trwy ymosod ar Irac.

“Fe fydd yn cael ei gofio fel dyn eithriadol gyda meddwl disglair a gafodd yrfa gyfreithiol ryfeddol,” meddai’r Athro Rob Robert McCorquodale, cyfarwyddwr Sefydliad Cyfraith Ryngwladol a Chymharol Prydain.

Ychwanegodd y bydd Canolfan Bingham, a ddatblygwyd i hyrwyddo cyfraith ryngwladol, sydd i fod i agor y mis nesaf, yn deyrnged addas a pharhaol iddo.

Galaru

Yn ôl cyfarwyddwr y mudiad hawliau sifil Liberty, Shami Chakrabarti, roedd yr Arglwydd Bingham yn un o farnwyr mwyaf ei oes.

“Heddiw fe fydd cyfreithwyr ac amddiffynwyr hawliau dynol ledled y byd yn galaru ar ôl y golled,” meddai.

“Roedd Tom Bingham yn gyfuniad perffaith o ddeallusrwydd, unplygrwydd, dynoliaeth a gostyngeiddrwydd – dyn preifat iawn a ddaeth yn gymaint o gawr ym myd y gyfraith a’r bywyd cyhoeddus.

“Cyhyd ag y bydd pobl yn unryw le’n ymladd poenydio a chaethwasiaeth, yn trysori rhyddid barn, treialon teg, preifatrwydd personol a rhyddid, fe fydd yr Arglwydd Bingham yn cael ei gofio.”

Llun: Thomas Bingham (o wefan Wikipedia)